Cycling UK Cymru
Mae Cycling UK yng Nghymru’n gweithio gyda chefnogwyr, ymgyrchwyr a phartneriaid i eirioli dros seiclo ledled y wlad ac yn dylanwadu ar lywodraeth leol a chenedlaethol i gyflenwi mesurau teithio llesol.
Yng Nghymru, mae gennym Ddeddf Teithio Llesol, ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddylanwadu ar lywodraeth leol a chenedlaethol i wella’r seilwaith seiclo ac i alluogi mwy o bobl i seiclo.
Mae aelodau Cycling UK yng Nghymru’n cymryd rhan weithgar mewn gwaith ymgyrchu yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd yn trefnu reidiau, teithiau, digwyddiadau a hyfforddiant trwy grwpiau o aelodau. Trwy gynnal Gŵyl Seiclo Cymru, sy’n hynod lwyddiannus, unwaith y flwyddyn, rydym yn dod ag aelodau Cycling UK o bob cwr o’r wlad at ei gilydd.
Ymgyrchu dros seiclo yng Nghymru
Rydym yn ymgyrchu yng Nghymru dros bolisïau, camau gweithredu a buddsoddi mewn seiclo a fydd yn annog mwy o bobl i seiclo a chael buddion o fyw bywyd iach, gweithgar a charbon isel.
Rydym hefyd yn cefnogi gwaith ymgyrchu lleol dros seiclo ledled Cymru trwy ein Rhwydwaith Eirioli dros Seiclo – rydym yma i’ch helpu i godi eich llais a galw am newid cadarnhaol yn eich ardal leol chi.
Hanesion y Llwybrau
Mwy o lwybrau yng Nghymru
Grwpiau o aelodau Cycling UK yng Nghymru
Mae bod yn aelod o grŵp seiclo’n ffordd wych o fagu hyder ar y ffordd neu oddi ar y ffordd, cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau a darganfod lleoedd a llwybrau newydd. Mae hefyd yn esgus da i ddod o hyd i’r gacen a phaned gorau ar y ffordd!
Mae gan Cycling UK gannoedd o grwpiau o aelodau ledled y DU sy’n cynnig miloedd o deithiau a digwyddiadau ar gyfer seiclwyr o bob lefel gallu. Mae pob aelod o Cycling UK yn gallu mynd am dro gydag unrhyw grŵp o aelodau ac mae croeso bob amser i’r rhai nad ydynt yn aelodau i roi cynnig ar ymuno â grŵp Cycling UK.
Mae cysylltiad grŵp Cycling UK ar gael i unrhyw un sy’n trefnu digwyddiadau seiclo, yn cynnal teithiau, yn hyrwyddo seiclo neu’n ymgyrchu drosto.