Etholiad y Senedd 2026
Dychmygwch Gymru lle mae plant yn seiclo’n ddiogel i’r ysgol, lle mae strydoedd mawr yn fwrlwm o bobl yn lle bod yn llawn tagfeydd traffig.
Cymru lle mae pawb ohonom yn gallu cerdded, olwyno, neu seiclo’n ddiogel ar ein teithiau bob dydd, a lle rydym yn gwerthfawrogi cefn gwlad ar feic – at ddibenion ymarfer corff a phleser.
Cymru lle mae pawb ohonom yn gallu anadlu aer glân a mwynhau cymunedau cryfach mwy cysylltiedig.
Ein gofynion i Lywodraeth nesaf Cymru
- Buddsoddi mewn teithio llesol
- Creu ffyrdd mwy diogel i bawb
- Sicrhau iechyd y cyhoedd a mynediad i leoedd gwyrdd
- Gwella’r dewis trafnidiaeth a chysylltedd i bawb
Briffiau Maniffesto
Darllenwch ein briffiau i gael golwg mwy manwl ar bob un o’n cynigion maniffesto.
Adnoddau
Ymunwch â’r Rhwydwaith Eirioli dros Seiclo
Hoffech chi helpu i gael mwy o bobl i seiclo yng Nghymru? Hoffech chi rannu’r hwyl o fynd ar feic? Hoffech chi weld newid gwirioneddol - gyda lonydd seiclo ar wahân a ffyrdd mwy diogel, lle gallwch gyrraedd siopau, swyddfeydd a chartrefi ar gefn beic?
Ymunwch â’r Rhwydwaith Eirioli dros Seiclo heddiw a chael mynediad at weminarau misol, cyfarfodydd ag ymgyrchwyr, sesiynau cymorth gyda’n timau ymgyrchu a mwy!