Etholiadau Lleol Cymru 2022

Ar 5 Mai, cynhelir etholiadau ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. Yn y cyfnod cyn yr etholiadau hyn, bydd Cycling UK yn gofyn i’r ymgeiswyr addo hyrwyddo teithio llesol, a gwneud newidiadau lleol yn bosibl trwy bolisi cenedlaethol

Cyrraedd y nod - ar gefn beic

Ar 5 Mai cynhelir etholiadau i ethol cynghorwyr i 22  awdurdod lleol Cymru. Bydd Cycling UK Cymru yn gofyn i ymgeiswyr fwrw ymlaen â’r gwaith o greu’r rhwydweithiau seiclo diogel o ansawdd da y mae eu hangen er mwyn galluogi pawb i seiclo

Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae mwy o deithiau pob dydd yn cynnwys teithio llesol, mae cefn gwlad yn fwy hygyrch, mae ein cymunedau mewn cysylltiad â’i gilydd, mae’r aer yn lanach ac mae ein hiechyd a’n lles yn cael blaenoriaeth.

Ein maniffesto ar gyfer seiclo

Cyn yr etholiad, gofynnwn i bleidiau gwleidyddol, cynghorau ac ymgeiswyr fabwysiadu’r 9 gofyniad yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad a thrwy hynny cyflawni go iawn dros seiclo.
 
Ein blaenoriaethau allweddol:

  • Meithrin y gallu i wireddu uchelgais y Ddeddf Teithio Llesol
  • Blaenoriaethu seiclo i’r ysgol gyda strydoedd ysgol, hyfforddiant Bikeability a llwybrau seiclo ar wahân
  • Sicrhau bod modd i bawb seiclo lle bynnag maen nhw’n byw

Yn yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi sut y gallwch gefnogi ein hymgyrch etholiadol yng Nghymru. Yn y cyfamser, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol ar ymgyrchu dros seiclo i gael y newyddion diweddaraf.