Traws Eryri

Antur 200km oddi ar y ffordd ar draws tirweddau godidog gogledd Cymru

Dewch i Lwybr Traws Eryri

O lonydd deniadol tawel yn dirwyn trwy ddyffrynnoedd, i lwybrau trwy goedwigoedd neu ar hyd rhostir yn dringo i fyny i fynyddoedd fry, mae tirweddau bendigedig gogledd Cymru yn galw arnoch i’w harchwilio ar gefn beic.

Mae Cycling UK wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i greu llwybr antur oddi ar y ffordd sy’n cysylltu rhai o deithiau gorau Eryri. Tu hwnt i gopa brysur yr Wyddfa, mae milltiroedd o draciau a llwybrau’n arwain i ganol coedwigoedd ac ar hyd pennau mynyddoedd trawiadol.

Gan ddringo bron 4,000m, mae’r llwybr yn gofyn am ddyfalbarhad – ond os ydych chi’n fodlon derbyn yr her, mae’r gwobrau’n anferthol. Cewch deimlo’r wefr o ddisgyniadau cyffrous â golygfeydd yn ymestyn am filltiroedd, ac ymdeimlad o arwahanrwydd nad oes dim yn tarfu arno ond lletygarwch y pentrefi a deithiwch drwyddynt.

Lawrlwythwch y teithlyfr

Ewch i siop ar-lein Cycling UK i gael y teithlyfr â mapiau mwy manwl.

Eisiau gweld mwy o lwybrau oddi ar y ffordd?

Ni fyddai’r gwaith o ddatblygu llwybrau newydd fel Traws Eryri yn bosibl oni bai am  haelioni ein haelodau a’n cefnogwyr. Gallwch chi ein helpi ni i barhau i greu llwybrau gwych fel hwn ac i ymgyrchu dros fynediad oddi ar y ffordd trwy ymaelodi neu gyfrannu rhodd heddiw.