Fy Nhaith Ein Hawl yn yr Eisteddfod

Aeth Gwenda, ein harweinydd eirioli a datblygu yng Nghymru, i’r Eisteddfod yn ddiweddar lle cynhaliodd digwyddiad cyntaf erioed Cycling UK ar y Maes - panel ar oresgyn rhwystrau i fenywod ym myd seiclo

Gan fy mod i’n dod o deulu o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, mae’r ymweliad blynyddol â’r Eisteddfod yn gyfle i gwrdd â’r teulu a chrwydro’r Maes yn mwynhau’r awyrgylch. Mae hefyd yn ddigwyddiad lle byddaf yn gresynu’r ffaith nad wyf wedi dysgu’r iaith yn ddigon cyson dros y blynyddoedd.

Fodd bynnag, roedd eleni’n wahanol am sawl reswm. Yn gyntaf, gan weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ac un o gynrychiolwyr lleol ein Rhwydwaith Eirioli dros Seiclo, roeddem yn mynd i gynnal ein digwyddiad cyntaf erioed yn yr Eisteddfod sef trafodaeth banel. Ac yn ail, ar ôl penderfynu ei bod hi’n hen bryd imi ddysgu Cymraeg yn iawn, roeddwn i’n mynd i ddefnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith er mwyn cyflwyno’r drafodaeth ar ein hymgyrch i fenywod.

Pam fod yr Eisteddfod yn bwysig?

Dyma esboniad gan Paul Bevan, cynrychiolydd lleol y Rhwydwaith Eirioli dros Seiclo, a chwaraeodd rhan flaenllaw yn y gwaith o’n helpu i fynd i’r Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o’r digwyddiadau pwysicaf a gynhelir yng Nghymru. Mae’n denu mwy na 150,000 o ymwelwyr a chafodd ei chynnal yn Wrecsam eleni. Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad diwylliannol, mae’r Eisteddfod yn blatfform i drafod pob math o bynciau sydd o bwys i Gymru, gydag amrywiaeth fawr o wleidyddion a sefydliadau cenedlaethol yn bresennol ar y Maes, yn ogystal â’r cyhoedd. Er mai Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod, mae’r digwyddiad cyfan yn agored i bawb, ac mae llawer o ddysgwyr Cymraeg a phobl nad ydynt yn siarad yr iaith yn mynychu’r trafodaethau ac yn eu mwynhau bob blwyddyn.

text

Ein diwrnod ar y Maes

Estynnwyd croeso inni ar y dydd gan Drafnidiaeth Cymru, sy’n chwarae rhan hanfodol yn helpu i wneud trafnidiaeth lesol a chynaliadwy yn hygyrch i bobl ledled Cymru.

Does dim dal beth fydd y tywydd yn yr Eisteddfod, ond heblaw am wynt a wnaeth inni gwestiynu sefydlogrwydd y babell ar brydiau, roedd y tywydd yn garedig inni. Felly roedd pobl yn hapus yn crwydro’r Maes a chawsom lif cyson o ymwelwyr yn awyddus i drafod eu teithiau ar feic gyda ni.

Hoffem feddwl bod gennym syniad da o’r rhesymau sydd gan bobl dros ddefnyddio, a pheidio â defnyddio beiciau, ac roedd ein bwrdd postio’n gyfle gwych i roi prawf ar y meddyliau hynny wrth inni sgwrsio â phobl am y pleser a deimlant a’r rhwystrau a wynebant.

Prif ddigwyddiad ein diwrnod oedd ein trafodaeth banel o’r enw Fy Nhaith, Ein Hawl. Fel yng ngweddill y DU, mae llai o fenywod na dynion yn seiclo yng Nghymru. Mae dynion yn gwneud dwywaith cymaint o deithiau ar feic na menywod, sy’n fwy tebygol o beidio â seiclo oherwydd traffig prysur ac oherwydd y ’bygylu ar gamdriniaeth a wynebir yn anghymesur gan fenywod yn ein bywydau bob dydd.

Cafodd y sesiwn ei gadeirio’n arbennig gan Lowri Joyce, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg Trafnidiaeth Cymru, sydd bellach wedi’i hysbrydoli i estyn ei beic o’r sied.  

Dangosodd yr atebion a gafwyd gan bedwar aelod arbenigol y panel fod y rhwystrau sy’n atal menywod rhag seiclo yn aml-haenog. Er bod diogelwch yn ystyriaeth amlwg a seilwaith wedi’i ddylunio’n dda yn ateb allweddol, roedd y panel hefyd yn ystyried y materion ehangach sy’n gallu lleihau apêl seiclo i fenywod, neu’n ei wneud yn llai cyraeddadwy - o’r disgwyliadau cymdeithasol gwahanol ar fenywod, i aflonyddu ar y stryd a’r teimlad nad yw seiclo’n rhywbeth i ni.

Pwysleisiodd Rhiannon Letman-Wade, dirprwy gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol, yr angen i weithio gyda phobl ifanc os ydym yn mynd i sefydlu ymddygiadau a fydd yn parhau pan fyddwn yn oedolion:

Mae angen arnom wneud mwy gyda phobl ifanc. Gwyddom fod llawer o ferched yn rhoi’r gorau i seiclo’n 14-15 oed – os allwn ni ddangos iddynt fod ffordd iddynt barhau i seiclo i’r ysgol, er enghraifft, maent yn fwy tebygol o barhau i seiclo yn y dyfodol. Os allwn ni sicrhau bod merched 13 oed yn teimlo’n ddiogel yn seiclo, bydd pawb yn teimlo’n ddiogel yn seiclo.

text

Siaradodd Alwen, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, y corff a fydd yn gyfrifol am ariannu teithio llesol yn y dyfodol, am y pryderon y mae hi ac eraill yn eu hwynebu o ran diogelwch beiciau a theimlo’n ddiogel:

Dydy hi ddim yn cymryd llawer i fenywod golli hyder pan fydd rhywbeth yn digwydd ichi ar y ffordd. Wnes i feddwl “mae’n haws imi fynd ar fy meic yn y mynyddoedd a pheidio gorfod dioddef y traffig "

text

Roedd Dafydd Trystan, eiriolwr hirdymor dros deithio llesol a chyn-gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol, yn gweld tebygrwydd â’r heriau y mae llawer o fenywod yn eu hwynebu wrth fynd i redeg. Pwysleisiodd fod un profiad gwael yn ddigon i droi pobl oddi wrth eu nod:

Os ydych chi’n nerfus cyn cychwyn ac wedyn yn cael un profiad gwael, rydych chi’n rhoi’r gorau i seiclo. Felly mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod cyn lleied o rwystrau â phosibl, er mwyn cefnogi pawb i ddychwelyd at seiclo.

text

Roedd Gwen Thomas, rheolwr trafnidiaeth strategol CBS Wrecsam yn pwysleisio’r angen i ystyried teithiau o bob math wrth ddylunio llwybrau seiclo, ac i osgoi portreadu’r rhai sy’n seiclo fel mathau penodol o bobl:

I mi, mae angen inni sicrhau nad ydyn ni’n canolbwyntio ar gymudo yn unig. Wrth edrych ar ddata a gwella seilwaith seiclo, dim ond oddeutu 20% o deithiau sy’n cymudo. Efallai y byddai llawer mwy o fenywod yn gallu mynd i siopa neu fynd â’r plant i’r ysgol ar feic nac y byddai’n gallu teithio i’r gwaith. Hefyd, mae angen ehangu ar ein syniadau/delweddau ni o ddefnyddwyr beic - a chynnwys cynifer o ‘fathau’ gwahanol o ddefnyddwyr â phosibl.

text

Roedd y ddadl yn un bwysig i ni ei chynnal, gan fod tystiolaeth o Ewrop yn dangos bod gennym gwell gyfle o droi seiclo’n weithgaredd bob dydd i bawb os ydym yn creu amgylchedd lle mae menywod yn teimlo eu bod yn gallu teithio ar feic. Ac fel dywedodd Paul, gyda’i statws pwysig yng nghymdeithas Cymru, roedd yr Eisteddfod yn lle rhagorol inni gynnal y drafodaeth hon:

“Trwy drefnu trafodaeth boblogaidd ynghylch tyfu nifer y menywod sy’n seiclo yng Nghymru, mae Cycling UK yn dangos ei fod yn arwain y drafodaeth ynghylch teithio llesol yng Nghymru.” 

Sgwrsio ar y Maes

Hefyd yn ystod y dydd, yn hytrach na chrwydro’r Maes yn ddibwrpas fel y byddaf yn ei wneud fel arfer, manteisiais ar y cyfle i ymweld â rhai o’r stondinau eraill i siarad gyda phobl am ein hymgyrch i fenywod, yn datblygu maniffestos ar gyfer yr etholiadau sydd ar y gweill a materion eraill yn ymwneud â seiclo, gan ddefnyddio cymaint o Gymraeg ag y gallwn.

Bues yn sgwrsio â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ynghylch cyfleoedd i letya pobl sy’n seiclo llwybr Traws Eryri, yn gwrando ar waith arbennig mae Pedal Power Wrecsam yn ei wneud yn galluogi pobl o bob gallu i fynd ar feic, yn trafod e-feiciau gyda’r heddlu, ac yn dysgu ychydig mwy am gynlluniau’r pleidiau gwleidyddol i ddatblygu eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Senedd flwyddyn nesaf, a’r hyn y gallwn ei wneud i ddylanwadu ar bolisïau’r dyfodol.

Lobïo dros newid

Bydd buddsoddi’n gynaliadwy mewn seilwaith wedi’i ddylunio’n dda, sy’n diwallu anghenion pawb a hoffai deithio ar feic yn un o’n prif ofynion i Lywodraeth nesaf Cymru. Hebddo, rydym mewn perygl o barhau i fod yn gymdeithas â dewisiadau cyfyngedig o ran teithio, lle bydd menywod ar eu colled yn anghymesur.

Rhaid inni greu amgylchedd lle gellir cyflawni teithiau byr bob dydd ar feic ledled Cymru. Fel sy’n wir am ddefnyddio’r Gymraeg, felly hefyd seiclo – rhaid inni wneud y gorau ohoni. Defnyddiwch y Gymraeg sydd gennych – newidiwch eich dulliau teithio lle bynnag y gallwch.