Clecs ar Feics - Menter Iaith Bangor

Teithiau beicio i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel

Bike rides for Welsh language learners and speakers of all levels

About us


Ydych chi'n hoffi reidio'ch beic a sgwrsio yn y Gymraeg? Ymunwch â ni ar ein teithiau hamddenol o tua 10 i 15 milltir, bob amser gyda stop mewn caffi, ar y llwybrau beicio a'r lonydd tawel o amgylch Bangor.

 Bydd angen beic addas ar gyfer y ffordd arnoch chi a byddwch chi'n gyfforddus yn beicio gyda phobl eraill ar lwybrau beicio a ffyrdd tawel.

 Dewch â'ch hun, beic, tiwb mewnol sbâr a dillad sy'n addas ar gyfer reidio a'r tywydd.

 Unrhyw gwestiynau cysylltwch â Gwenda ar 07875 333 234

Like riding your bike and chatting in Welsh?  Join us on our leisurely rides of around 10 to 15 miles, always with a café stop, on the cycle paths and quiet lanes around Bangor. 

You will need a roadworthy bike and to be comfortable cycling with other people on cycle paths and quiet roads.

Bring yourself, bike, spare inner tube and clothes suitable for riding and the weather.

Any questions get in touch with Gwenda on 07875 333 234

Mae Menter Iaith Bangor yn gysylltiedig â Cycling UK ac felly mae arweinwyr teithiau wedi'u hyswirio ar gyfer atebolrwydd trydydd parti ar deithiau grŵp. Mae beicwyr unigol yn gyfrifol drostynt eu hunain ac efallai y byddant am ystyried cael eu hyswiriant eu hunain.

Menter Iaith Bangor is affiliated to Cycling UK and as such ride leaders are insured for third party liability on group rides. Individual riders are responsible from themselves and may want to consider getting their own insurance.

 

Information about the group rides


Cyfle i reidio a sgwrsio gyda dysgwyr a siaradwyr Cymraeg o bob lefel.

Cyfarfod wrth fynedfa Lôn Las Ogwen, Porth Penrhyn, Bangor yn barod i gychwyn am 10 y bore.

Bydd daithiau gan Clecs ar Feics yn un fer o dan 10 milltir. Byddwn yn mynd ar hyd y llwybr beicio tuag at Dregarth ar gyflymder hamddenol gan stopio ym Mlas Lôn Las am baned a sgwrs cyn mynd yn ôl i'r man cychwyn.

Dewch â chi'ch hun, eich beic (tiwb mewnol sbâr rhag ofn!) a dillad sy'n addas ar gyfer reidio a'r tywydd.

A chance to ride and chat with Welsh learners and speakers of all levels.  

Meet at the entrance to Lon Las Ogwen, Port Penrhyn, Bangor ready to head of at 10 am. 

Clecs ar Feics rides will be short ones of under 10 miles. We will head along the cycle path towards Tregarth at a leisurely pace stopping at Blas Lon Las for a cuppa and a chat before heading back to the start.

Just bring yourself, your bike (a spare inner tube just in case!) and clothes suitable for riding and the weather  

Our area