Traws Eryri: atebion i’ch cwestiynau

Rydym wedi cyfuno’r holl gwestiynau rydych chi wedi eu holi am Lwybr Traws Eryri i’ch helpu chi i gynllunio’ch taith

Read in English

 

Os oes gennych gwestiwn sydd heb ei ateb fan hyn, mae croeso ichi gysylltu a gallwn ei ychwanegu at y rhestr.

 

 

Pa mor hir mae’n ei gymryd i deithio ar hyd y llwybr?

Hyd y llwybr yw 196km / 122 o filltiroedd, gyda 4424m o ddringo.

Cofiwch y gall y tir a’r llethrau serth eich arafu chi’n fwy na’r disgwyl, felly cynlluniwch eich pellter dyddiol yn unol â hynny – rydym yn argymell tri i bedwar diwrnod os ydych chi eisiau mwynhau yn hytrach na rhoi eich hun dan bwysau.

Top 

 

Pa fath o feic sydd orau?

Dyluniwyd llwybr Traws Eryri ar gyfer beiciau mynydd, a bydd y rhai sy’n defnyddio gerau isel a theiars mawr yn bendant yn cael y pleser mwyaf o’r llethrau serth a’r wynebau creigiau rhydd. Mae defnyddio beic mynydd hefyd yn rhoi cyfle i brofi rhai o’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol  yng nghoedwig Dyfi, Coed y Brenin, Penmachno a Choedwig Gwydir.

I’r rhai sy’n mwynhau her, gellid cwblhau’r llwybr ar feic graean â gerau isel a theiars llydan os na fydd ots gennych wthio’r beic i fyny a cherdded i lawr mewn mannau. Nid ydym yn argymell defnyddio beiciau ffordd, beiciau teithio na beiciau hybrid â gerau cyfyngedig a/neu deiars cul. Bydd e-feic yn gwneud y dringfeydd yn haws, ond dylech gynllunio’r mannau gwefru ymlaen llaw. Bydd Eryri yn defnyddio eich batri’n gynt na’r rhan fwyaf o dirweddau eraill.

Top 

 

 Pa mor anodd yw e? Sut mae’r tir?

Prif her Traws Eryri yw’r llethrau. Y rhan fwyaf o’r amser, bydd eich olwynion naill ai’n pwyntio i fyny neu i lawr. Mae llawer o’r llwybr yn defnyddio llwybrau coedwigaeth â wyneb graean a ffyrdd tawel, ond mae rhai darnau’n eithaf garw a chreigiog, sy’n ychwanegu lefel o anhawster technegol i rai o’r disgyniadau, yn enwedig mewn amodau gwlyb.

Sicrhewch fod gennych feic ac yn defnyddio gêr rydych chi’n hyderus â nhw. Gallwch bob amser ddod oddi ar y beic a gwthio os na fyddwch yn teimlo’n gyfforddus. Ystyriwch faint rydych yn ei gario, gan y bydd beic wedi’i lwytho’n llywio’n wahanol iawn ar y disgyniadau.

Mae’r llwybr yn cysylltu â chanolfannau yng Nghoedwig Dyfi, Coed y Brenin, Penmachno a Choedwig Gwydir, sy’n cynnig cyfle i gynnwys ambell lwybr beicio mynydd yn eich taith.

Mae gan y rhan fwyaf o’r llwybrau a ddefnyddiwn sylfaen greigiog, felly ni fyddwch yn mynd yn sownd mewn cors beth bynnag yw’r tywydd.  

Tua diwedd y llwybr (yn Nhy’n-y-ffrith ger Mynydd Conwy) bydd angen ichi gario eich beic ar hyd cilffordd gyfyngedig, lle mae’r tir yn gorslyd a’r llwybr yn anodd i’w ddilyn. Rydym yn gobeithio bydd y gwelliannau i’r llwybr yn y dyfodol yn caniatáu defnyddio’r llwybr troed â wyneb gwell a’r bont ychydig i’r de, ond ar hyn o bryd, byddai hynny’n golygu codi’ch beic dros gamfa.

Top 

 

Sut ydw i’n cyrraedd yna a nôl, ac ydw i’n gallu gadael fy nghar am ychydig o ddyddiau?

Gan ei fod yn llwybr llinellol, y trên yw’r opsiwn hawsaf yn ôl pob tebyg. Mae gorsafoedd ym  Machynlleth a Chonwy (ac yn Abermaw a Blaenau Ffestiniog ar hyd y llwybr).

Nid yw’r cysylltiadau ar draws Cymru yn rhedeg yn aml iawn felly gall y daith gymryd tipyn o amser gan ddibynnu o le rydych chi’n dod, ond er hynny maen nhw ymysg y teithiau rheilffordd harddaf ym Mhrydain. Nid oes angen cadw lle i feic ar y llinellau hyn fel arfer, ond mae’n debyg y bydd angen ichi wneud hynny ar lwybrau cysylltiol a gaiff eu rhedeg gan gwmnïau trên eraill. Gweler ein canllaw i fynd â’ch beic ar y trên i gael mwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n teithio mewn car, gallwch brynu tocyn aml-ddydd ym maes parcio talu ac arddangos Stryd Maengwyn ym Machynlleth, ac mae’n werth da am arian. Mae ychydig o feysydd parcio yng Nghonwy hefyd lle gallwch barcio am fwy na 24 awr.

Mae nifer o gwmnïau tywys beicio mynydd megis MTB Cymru a Bikepacking Wales a fydd efallai’n gallu helpu i fynd â chi a’ch beiciau o’r naill ben i’r llall os cysylltwch chi â nhw.

Top 

 

Oes yna wybodaeth am y llety a’r cyfleusterau ar hyd y ffordd?

Yng nghefn y teithlyfr, ceir tabl yn dangos y cyfleusterau ym mhob tref neu bentref sy’n agos i’r llwybr, i’ch helpu chi i gynllunio’ch taith.

Top 

 

Oes yna deithiau tywysedig neu deithiau â chymorth ar gael?

Mae MTB Cymru a Bikepacking Wales yn bwriadu rhedeg teithiau â chymorth.

Top 

 

Allaf i feicio i’r naill gyfeiriad neu’r llall?

Mae’r llwybr wedi’i gynllunio ar gyfer mynd o’r de i’r gogledd, o ran y disgyniadau ac oherwydd ei fod yn reit bleserus i orffen ar yr arfordir. Wedi dweud hynny, gellir mynd ar hyd-ddo y ffordd arall hefyd, o Gonwy i Fachynlleth.

Top 

 

Oes yna arwyddion ar y llwybr?

Nid oes arwyddion ar Lwybr Traws Eryri, ac er ei fod yn dilyn ambell ddarn byr o lwybrau eraill a hyrwyddwyd, ar y rhan fwyaf ohono bydd angen ichi roi sylw i’ch llywio. Gallwch lawrlwytho’r ffeil gpx ar dudalen y prif lwybr, ac mae’r llwybr wedi’i fapio’n llawn ar gefn y canllaw llwybrau printiedig.

Top